Myfyrwyr yn derbyn eu canlyniadau (Llun: PA)
Mae myfyrwraig o Abergele sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw Prifysgol Warwick yn cydnabod Cymraeg fel pwnc Safon Uwch.

Mae Elain Haf wedi trydar llun sy’n awgrymu nad yw’r brifysgol yn derbyn y pwnc wrth ystyried ceisiadau darpar-fyfyrwyr ar gyfer cwrs V100, sef BA Hanes (Y Dadeni/Modern a Modern).

Mae’r llun yn dangos y cynnig i rywun anhysbys, a’r cynnig yn datgan bod angen tair Safon Uwch, ond nad yw ystyriaeth yn cael ei rhoi i “Gymraeg, Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl Beirniadol”.

Ond dydy’r dudalen sy’n rhoi manylion y cwrs ar wefan y brifysgol ddim yn dweud nad yw Cymraeg yn cael ei dderbyn fel pwnc. Y prif ofynion sy’n cael eu nodi yw tair A mewn Safon Uwch, gan gynnwys Hanes.

Ar dudalen Derbyniadau Prifysgol Warwick, does dim sôn am eithrio Cymraeg fel pwnc, ond mae’n nodi nad yw Bagloriaeth Cymru – fel sy’n wir am nifer o brifysgolion eraill Lloegr – yn cael ei chydnabod.

Mae golwg360 wedi gofyn i Brifysgol Warwick am ymateb.