Rhun Dafydd, Llywydd UMCA
Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi dechrau ymgyrch i geisio annog pobol i siopa’n lleol.

Yn ôl Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth [UMCA], gall siopa’n lleol fod yn rhatach, yn well i’r amgylchedd ac yn “egwyddorol gywir” drwy helpu’r gymuned.

Drwy gydol mis Mai, bydd UMCA ac Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth yn annog myfyrwyr i siopa gyda busnesau lleol ac yn cydweithio gyda busnesau’r dref.

Bydd yr undebau hefyd yn rhannu ryseitiau rhad â myfyrwyr a fydd yn eu hannog i brynu bwyd yn lleol.

Pwysig cadw Aber yn “unigryw”

“Pwrpas yr ymgyrch yw ceisio cael mwy o fyfyrwyr i siopa yn y dref,” meddai Rhun Dafydd, Llywydd UMCA.

“Dwi’n credu ei bod yn bwysig i’r Brifysgol gefnogi’r dref oherwydd bod y naill a’r llall yn hanfodol i ffyniant ei gilydd ac un o’r agweddau sy’n gwneud Aberystwyth mor unigryw yw’r amrywiaeth o siopau lleol sydd yn y dref.

“Mewn byd sy’n mynd yn fwyfwy cyfalafol, mae’n holl bwysig edrych ar ôl eich ardal leol. Ceir sawl sail pam ddylai myfyrwyr gefnogi’r ymgyrch, o fuddion amgylcheddol i’r ochr egwyddorol.”