Ystafell ddosbarth (Llun: PA)
Mae Llywodraeth Prydain wedi cael eu cyhuddo o wastraffu miliynau o bunnoedd ar ysgolion rhydd sydd bellach wedi’u cau.

Yn ôl ffigurau undeb yr NUT, mae o leiaf £138.5 miliwn wedi cael ei wario ar 62 o ysgolion rhydd, colegau technegol prifysogolion ac ysgolion stiwdio sydd wedi’u cau, wedi’u cau’n rhannol neu heb eu hagor o gwbl.

Mae’r ffigurau’n bennaf seiliedig ar wefannau Llywodraeth Prydain, Tŷ’r Cwmnïau ac adroddiadau’r wasg.

‘Polisïau di-feddwl’

Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol yr NUT, Kevin Courtney, mae polisïau Llywodraeth Prydain yn “ddi-feddwl sydd… wedi arwain at wastraffu symiau mawr o arian”.

Ychwanegodd: “Mae’r ffaith fod symiau mawr fel hyn wedi cael eu taflu i ffwrdd ar adeg pan fo ysgolion ar hyd a lled y wlad yn galw allan am arian i staff, i ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys ac i sicrhau bod adnoddau ac offer hanfodol ar gael, yn gywilyddus.

“Dylai gweinidogion ymddiheuro wrth athrawon a rhieni.”

Ysgolion rhydd

Cyhoeddodd Ysgrifennydd Addysg San Steffan, Justine Greening yr wythnos hon fod mwy na 130 o ysgolion rhydd wedi cael sêl bendith.

Bydd lle i hyd at 69,000 o ddisgyblion yn yr ysgolion hynny.

Ysgolion gwladol yw ysgolion rhydd sydd heb fod o dan reolaeth awdurdodau lleol ac sydd â rhyddid i benderfynu ar gyflogau staff a’r cwricwlwm.

Mae 124 o ysgolion rhydd wedi’u hagor ers 2015, ac mae disgwyl i 373 yn rhagor agor yn y dyfodol agos.

Mae disgwyl i 500 o ysgolion rhydd fod wedi’u hagor erbyn 2020.

‘Rôl hanfodol’

Yn ôl Adran Addysg San Steffan, mae gan ysgolion rhydd “rôl hanfodol” i’w chwarae yn addysg plant.

“Maen nhw’n boblogaidd ymhlith rhieni, gan sicrhau bod gan filoedd yn rhagor o deuluoedd ddewis o ysgol leol dda.”

Ond yn ôl llefarydd addysg y Blaid Lafur yn San Steffan, Angela Rayner yn dweud bod polisi’r Llywodraeth yn “ffordd aneffeithiol iawn o ddarparu llefydd mewn ysgolion y mae angen mawr amdanyn nhw”.