Ystafell ddosbarth (Llun: PA)
Mae cynhadledd undeb athrawon yng Nghaerdydd wedi clywed bod plant mewn ysgol yn Lloegr wedi cael eu gorfodi i wisgo côt yn yr ysgol er mwyn lleihau costau gwres.

Ymhlith y pryderon eraill a gafodd eu codi roedd y ffaith fod plant wedi methu â chael mynediad i lyfrau cwrs a llungopïwr.

Fe fu’n rhaid i rieni mewn un ysgol godi £80,000 er mwyn helpu’r ysgol i ymdopi â diffyg o £300,000 ar ôl iddyn nhw dderbyn llythyron yn gofyn am gymorth.

Toriadau

Yn ystod y gynhadledd, mae sylfaenydd yr ymgyrch Fair Funding For All, Jo Yurky o ogledd Llundain wedi bod yn rhybuddio am effeithiau toriadau gan Lywodraeth Prydain i fyd addysg yn Lloegr.

Dywedodd fod y plant yn “rhewi” ar ôl dod yn ôl ar ôl gwyliau’r ysgol.

“Dyma ysgol heb arian i brynu llyfrau cwrs, dydyn nhw ddim yn gallu llungopïo llyfrau cwrs, maen nhw’n gofyn i rieni am arian.

“Pwy fyddai’n dymuno i’w plentyn fod yn yr ystafell ddosbarth honno? Neb. Sut mae’n helpu plant i ddysgu? Dydy e ddim.”

Dywedodd fod y llywodraeth Geidwadol yn “gwrthod cydnabod” y problemau.

Mae disgwyl i aelodau’r NUT gynnal streic undydd yn Lloegr cyn diwedd y flwyddyn academaidd.