Malala Yousafzai
Mae ymgyrchydd hawliau merched a gafodd ei saethu yn ei phen gan y Taliban, newydd alw ar arweinwyr ei gwlad newydd i wella’r cyfleoedd i ferched ym myd addysg.

Wrth ddod yn ddinesydd anrhydeddus yng Nghanada, mae’r enillydd Gwobr Heddwch Nobel, Malala Yousafzai, wedi galw ar Senedd y wlad i wneud addysg i ferched yn flaenoriaeth. Canada sy’n cynnal uwch gynhadledd gwledydd yr G7 yn 2018.

Roedd hi’n ferch ysgol 15 oed pan saethwyd hi yn ei phen gan y Taliban ym Mhacistan yn 2012. Cafodd ei thargedu oherwydd ei barn ar addysg i ferched.

Dylai’r seremoni i’w handrydeddu fod wedi cael ei chynnal ar Hydref 22, 2014, ond cafodd ei ohirio oherwydd ymosodiad gan ddyn â gwn ger y Senedd y diwrnod hwnnw.

Yn ol y ferch sydd bellach yn 19 oed, mae ei ffrindiau wedi cyffroi’n lân wrth feddwl amdani’n cwrdd â Phrif Weinidog Canada, Justin Trudeau.