”Bryn
”]Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn teithio i Fynyddoedd yr Himalaia y mis hwn i fod y cyntaf yn y byd i dyllu’n llwyddiannus i rewlif ucha’r byd.

Bydd yr Athro Bryn Hubbard a’i gydweithwyr o Ganolfan Rhewlifeg Aberystwyth yn treulio chwe wythnos yn rhewlif Khumbu wrth droed Mynydd Everest yng ngogledd ddwyrain Nepal.

Mae uchder y rhewlif yn amrywio rhwng 4,900 a 7,600 metr, ac maen nhw’n gobeithio tyllu tua 200 metr i mewn i’r iâ i astudio’i strwythur mewnol, ei dymheredd a’i system draenio dŵr.

“Dyma’r tro cyntaf i unrhyw un geisio tyllu i rewlif Khumbu” meddai Bryn Hubbard.

‘Heriol’

Bydd y criw yn cyfuno eu data â lluniau lloeren i ddeall sut mae’r rhewlif yn symud ac yn ymateb i newid hinsawdd.

Esboniodd Bryn Hubbard fod yr ymchwil yn “heriol” oherwydd – “nid ydym yn gwybod pa mor dda y bydd ein hoffer yn perfformio ar uchder, heb sôn am sut y byddwn ni’n ymdopi â’r aer tenau.”

Dywedodd y byddan nhw’n ymchwilio i lif y dŵr i ragweld pryd fydd argaeau’r rhewlifoedd yn torri sy’n medru achosi llifogydd difrifol.

“Mae hyn yn risg gwirioneddol ym mynyddoedd yr Himalaia, fel y mae mewn ardaloedd eraill megis yr Andes, ac mae ganddo’r potensial i beryglu bywydau miloedd o bobol,” meddai.

Yn ymuno ag ef mae arbenigwyr o Brifysgol Leeds a Sheffield ynghyd â myfyrwraig doethur o Brifysgol Aberystwyth, Katie Miles.