Campws Llanbed, Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
Mae Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant wedi ysgrifennu at Bob aelod o’i staff dysgu yn gofyn iddyn nhw ystyried cael eu diswyddo yn wirfoddol, yn ôl datganiad gan Unsain.

Yn ôl yr undeb mae’r brifysgol yn gobeithio gwneud arbed 10% o’r hyn maen nhw yn wario ac yn chwilio am ‘ddiswyddiadau sylweddol’ (mass redundancies).

Os na fydd nifer digonol o ddiswyddiadau gwirfoddol y disgwyl yw bydd diswyddiadau gorfodol yn cael eu gweithredu.

Daw’r pryderon yn sgil cyhoeddiad ddoe bod 139 o swyddi ym Mhrifysgol De Cymru mewn perig wrth i’r brifysgol gynnal adolygiad yn sgil pwysau ariannol cynyddol.

“Angen ymyrryd?”

“Rydym yn cydnabod yr herion ariannol sydd yn wynebu nifer o brifysgolion yng Nghymru, gyda Phrifysgol De Cymru fel enghraifft ddiweddar,” medd Simon Dunn o undeb Unsain.

“O ystyried gwerth economaidd addysg uwch yng Nghymru rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sut mae prifysgolion yn ymateb i’r herion yma, ac os oes angen ymyrryd.”

Mae gan y Brifysgol bedwar campws – yng Nghaerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan, Abertawe a Llundain ac yn y flwyddyn academaidd 2015/16 roedd gan y Brifysgol 9,930 o fyfyrwyr.

‘Lleihau costau staffio’

Dywedodd llefarydd ar ran y Brifysgol: “Fel rhan o’i harferion busnes arferol mae’r Brifysgol yn adolygu costau staffio yn rheolaidd yn unol â meincnodau’r sector.

“Mae costau staffio presennol y Brifysgol yn uwch na chymariaethau meincnodau’r sector ac felly mae’n adolygu lefelau staffio ar draws ei holl unedau Academaidd a Phroffesiynol.

“I’r perwyl hwn, lansiodd y Brifysgol gynllun ymddiswyddo gwirfoddol gyda’r nod o leihau costau staffio fel canran o’r trosiant ac mae wedi cyfarfod yn ddiweddar gyda’r Undebau Llafur cydnabyddedig er mwyn rhoi gwybod iddynt am y sefyllfa.

“Mae’r broses yn debygol o barhau dros yr ychydig wythnosau nesaf.”