Mae arddangosfa yn ninas Bangor yng Ngwynedd i ddathlu 460 o flynyddoedd ers sefydlu Ysgol Friars yn 1557.

Mae’r arddangosfa yn adeilad Storiel yn cynnwys hanes a lluniau cynnar o’r ysgol yn ogystal â hanesion mwy diweddar.

Gellir olrhain stori Ysgol Friars yn ôl i fynachlog Urdd Sant Dominic yn ardal Hirael y ddinas, lle sefydlwyd yr ysgol gyntaf ym 1557.

Dyma o le daw’r enw ‘Friars’ a hefyd lle daw’r llysenw a roddwyd i ddisgyblion yr ysgol – y ‘Dominicans’.

Mae cymdeithas lewyrchus o gyn-ddisgyblion yr ysgol, a elwir yn ‘Gymdeithas yr Hen Ddominiciaid’ yn cyfarfod yn rheolaidd i gadw mewn cysylltiad gyda hen gyfeillion a meithrin cysylltiadau gyda’r Ysgol a’i disgyblion presennol.