Mae cynlluniau ar y gweill i uno Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor [UMCB] â’r Undeb Myfyrwyr ehangach. Bu’r ddau undeb ar wahân ers 2009.

Yn ôl datganiad ar wefan yr undeb, maen nhw yn dod at ei gilydd eto am fod “dymuniad i’r ddau Undeb weithio gyda’i gilydd,” wrth i UMCB adolygu ei strwythur.

Ar hyn o bryd, mae Llywydd UMCB yn swydd llawn amser, ond yn wahanol i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, dim ond aelodau’r undeb Cymraeg sy’n gallu ei ethol ym Mangor.

Pe bai’r newid yn digwydd, byddai’r rôl yn newid i fod yn ‘Is-lywydd Myfyrwyr Cymraeg a Llywydd UMCB’ erbyn yr etholiadau nesaf yn 2018.

Mae’r ddau undeb yn dadlau y byddai’r newid rôl yn golygu bod gan Lywydd UMCB fwy o lais ar Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Undeb ehangach ac y byddai’n gallu cael cefnogaeth staffio ffurfiol.

Mae’r newid yn amodol i bleidlais yng Nghyfarfod Cyffredinol yr Undeb ond mae Pwyllgor Gwaith UMCB, Cyngor y Brifysgol a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr eisoes wedi pasio’r cynnig.

Pe bai UMCB yn uno, byddai’n gallu parhau i gynhyrchu deunyddiau uniaith Gymraeg ond ei fod yn “barod i gynhyrchu deunydd dwyieithog ar gais unrhyw fyfyriwr”.

Mae golwg360 wedi ceisio cael ymateb gan Lywydd UMCB.