Yr Atrium yng Nghaerdydd, rhan oi Brifysgol De Cymru (gwefan y Brifysgol)
Mae 139 o swyddi yn y fantol ym Mhrifysgol De Cymru wrth i’r brifysgol gynnal adolygiad yn sgil pwysau ariannol cynyddol.

Y disgwyl yw gall 4.6% o staff y brifysgol dros dri champws yn Nhrefforest, Casnewydd a Chaerdydd gael eu heffeithio.

Mae’r Brifysgol wedi mynnu eu bod mewn sefyllfa ariannol ddiogel ond bod costau cynyddol a lleihad yn y nifer sydd yn dewis mynd i brifysgol yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw gyflwyno newidiadau.

Ond mae un o’r prif undebau yn y brifysgol wedi rhybuddio y byddan nhw’n gwneud popeth allan nhw i amddiffyn eu haelodau.

‘Rhaid gweithredu’

Mae’r Brifysgol yn dweud bod rhaid gweithredu’n awr er mwyn cynnal y Brifysgol yn y tymor hir.

“Allwn ni ddim parhau â’r strwythurau presennol oherwydd os fyddwn ni, byddai’r Brifysgol dros amser yn colli ei safle ariannol sefydlog. Rydym yn gwybod bod hyn yn anodd i’r staff a gaiff eu heffeithio,” meddai llefarydd ar ran y Brifysgol.

Yn ôl y brifysgol mae costau yn cynyddu 3% bob blwyddyn a bydd llai o fyfyrwyr tramor yn dod yno yn sgil Brexit.

Amddiffyn staff rheng flaen

Mae’r undeb UNISON wedi bod yn cyfrannu at ymgynghoriad ffurfiol â’r brifysgol ac yn mynnu na ddylai staff rheng flaen gael eu heffeithio gan ymgais y coleg i arbed arian.

Fe ddylai’r toriadau ddod o blith rheolwyr, medden nhw, ac fe fyddan nhw’n ymgynghori gyda’u haelodau pan fydd y cynlluniau’n glir.

“Mae ein cangen ni yn galw ar y Brifysgol i ymrwymo i amddiffyn swyddi staff rheng flaen ac os oes rhaid, i ddod i ben â’r arfer o gadw a recriwtio staff rheolaeth sy’n derbyn cyflogau uchel,” medd Ysgrifennydd Cangen UNISON Prifysgol De Cymru, Dan Beard.