Llun: Cyngor Powys
Mae’r mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn cwrdd â Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, heddiw i bwyso am greu ysgolion Cymraeg newydd fel rhan o’r broses cynllunio.

Mae’r mudiad wedi paratoi cyfres o fapiau yn dangos ble mae angen blaenoriaethu creu ysgolion cynradd, uwchradd ac unedau Cymraeg erbyn 2020.

Mae’r rhain yn cynnwys ardaloedd o Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Gar, Sir Fynwy, Torfaen a Wrecsam.

‘Cyd-gynllunio’

“Mae nod uchelgeisiol y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn gwbl ddibynnol ar gynyddu niferoedd sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Lynne Davies, Cadeirydd RhAG.

“Prin yw addewidion y siroedd yn eu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer 2017-20 am ysgolion newydd yn y tair blynedd nesaf.

“Dylai cylch nesaf y Cynlluniau ymrwymo i sefydlu ysgolion newydd yn y mannau hyn,” ychwanegodd.

Dywedodd hefyd na ddylai rhieni orfod ymgyrchu am addysg Gymraeg – “mae angen i ni fod yn cyd-gynllunio’n strategol gyda Llywodraeth Leol yn perchnogi eu cyfrifoldeb gweithredol a Llywodraeth Ganol yn glir o ran eu disgwyliadau a’r gefnogaeth ymarferol y gallant ei gynnig.”

Powys

Mae addysg Gymraeg ym Mhowys wedi bod yn destun trafod yn ddiweddar, gyda’r gantores Sian James yn mynegi pryder nad oes yr un ysgol benodedig Gymraeg ar gael yng ngogledd y sir.

Fe wnaeth Cyngor Powys bleidleisio yn ddiweddar dros gau ffrwd Gymraeg Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn ne y sir lle byddant yn canoli’r addysg Gymraeg yn Llanfair ym Muallt.