Bydd campws Prifysgol Abertawe yn derbyn buddsoddiad gwerth £17.4m heddiw er mwyn sefydlu canolfan ymchwil newydd.

Caiff y cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd ei fuddsoddi mewn canolfan ymchwil Deunyddiau Arloesol, Prosesu a Thechnolegau Rhifyddol (IMPACT) yn ardal Bae Abertawe.

Bydd y ganolfan newydd yn cynnwys labordy a gofod swyddfa, a bydd yn cefnogi ymchwil i dyfu a diogelu cyfleoedd busnes yn y sector beirianneg ddatblygedig.

Y gobaith yw bydd y ganolfan yn agor yn 2019, gan ddenu 65 o swyddi academaidd newydd, a chant a hanner o ymchwilwyr.

“Rydyn ni’n croesawu’r arian yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer yr adnodd newydd pwysig hwn ar Gampws y Bae,” meddai’r Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Athro Richard B Davies.

“Bydd IMPACT yn gweithredu fel sefydliad ymchwil lled-annibynnol ag amcanion a bennir gan fwrdd gwyddonol ac sy’n cael ei gynghori gan randdeiliaid allanol o’r byd academaidd, y llywodraeth a diwydiant.”