Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies
Mae Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o gynlluniau addysg Gymraeg cynghorau.

Cyhoeddodd Alun Davies heddiw y bydd cyn-Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts, yn arwain adolygiad cyflym o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg sydd wedi’u llunio gan awdurdodau lleol.

Bydd hyn yn digwydd ar unwaith.

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i baratoi a chyflwyno Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i Weinidogion Cymru eu hystyried. Rhaid i’r cynlluniau osod “targedau heriol ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd”, meddai.

Hefyd, rhaid i’r cynlluniau ddangos “camau gweithredu clir i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg.”

“Sbardun”

Dywedodd Alun Davies wrth Aelodau’r Cynulliad: “Yr adolygiad cyflym hwn fydd y cam cyntaf o ran newid pethau.  Gan ddibynnu ar ganlyniad yr adolygiad hwn, rhaid i unrhyw waith rydym yn ei ddatblygu yn y dyfodol gynnwys y bobl hynny sy’n darparu addysg ar lawr gwlad – athrawon, llywodraethwyr, penaethiaid, a staff cymorth – y rheini a fydd yn chwarae rhan sylweddol er mwyn sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg.

“Bydd y camau rydym yn eu cymryd nawr yn dylanwadu ar siaradwyr Cymraeg y dyfodol.  Pwy bynnag sy’n gwneud fy swydd i yn 2050, dwi am iddo fe neu iddi hi edrych yn ôl ar yr adeg hon fel cyfnod o newid, y sbardun a wnaeth wahaniaeth go iawn i’r iaith a’i siaradwyr.

“Bydd Aled yn dod â phrofiad sylweddol a llygaid craff i’r rôl hon. Fel cyfreithiwr, cyn-arweinydd awdurdod lleol, llywodraethwr ysgol ac wrth gwrs, cyn-Aelod Cynulliad dros y Democratiaid Rhyddfrydol, mae gan Aled y cefndir a’r profiad sydd eu hangen er mwyn dadansoddi’r rhesymau pam nad yw cynllunio ar gyfer y Gymraeg mor effeithiol ag y dylai fod.”

“Cyfeiriad clir”

Ychwanegodd y bydd yn creu cyfres o argymhellion i symud ymlaen â’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

“Rhaid i’r argymhellion osod cyfeiriad clir i mi ar gyfer newid.  Bydd dull cydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol yn ystod y cyfnod hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau canlyniadau llwyddiannus.

“Dwi am i bob Awdurdod Lleol ledled Cymru gyfrannu at yr adolygiad hwn,” meddai Alun Davies.

“Ddim yn ddigon uchelgeisiol”

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penodiad Aled Roberts.  Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

“Mae penodiad Aled Roberts yn un da, ac rydym yn falch bod adolygiad cyflym. O’r hyn rydyn ni wedi’i weld o’r cynlluniau, mae gwir angen adolygiad achos dydyn nhw ddim yn ddigon uchelgeisiol.

“Wedi’r cwbl, mae 80% o’n pobl ifanc yn cael eu hamddifadu o’r Gymraeg ar hyn o bryd, ac ar gyfradd bresennol y twf byddai’n cymryd dros 800 mlynedd i sicrhau addysg Gymraeg i bawb.  Mae angen i bob awdurdod sefydlu rhaglen newid fel bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg. Oni bai bod newidiadau radical, wnawn ni ddim cyrraedd y filiwn.

“Mae sylwadau Comisiynydd y Gymraeg yn dangos bod nifer o awdurdodau wedi gweithredu’n anghyfreithlon wrth lunio eu cynlluniau, ac felly eu bod yn agored i her. Byddwn ni fel mudiad yn ystyried ein hopsiynau: yn sicr, allwn ni ddim caniatáu i’r sefyllfa bresennol barhau.”