Kirsty Williams (Llun: Cynulliad Cenedlaethol Cymru)
Mae disgwyl i’r Aelod Cynulliad, Kirsty Williams, ganolbwyntio ar ddiwygiadau i’r system addysg wrth iddi annerch Cynhadledd Gwanwyn y Democratiaid Rhyddfrydol heddiw.

Wrth draddodi’r araith i’r dorf yn Ysgol Bishop Gore, Abertawe, mi fydd Kirsty Williams yn pwysleisio ymrwymiad y blaid i addysg ac yn cyfeirio at ddiwygiadau fel eu “cenhadaeth genedlaethol.”

Mi fydd hi hefyd yn dadlau mai’r Blaid Ryddfrydol yw’r “blaid sy’n sefyll dros addysg” a bod y blaid wedi blaenoriaethu addysg yn fwy nag pleidiau eraill yn y gorffennol.

“Mae addysg at graidd yr hyn yr ydym yn cynrychioli. A nawr fel rhan o’r Llywodraeth rydym yn blaenoriaethu addysg, pob dydd.”

“Rydym o hyd yn cyflawni’n fwy nag gweddill y pleidiau gyda’i gilydd, a ni yw’r blaid sydd yn sefyll dros addysg o hyd.”