Rhan o lythyr Robin Llywelyn yn Private Eye
Mae Prif Lenor a gwr busnes wedi anfon llythyr at gylchgrawn dychanol yn beirniadu’r ffordd y cafodd stori am droi Ysgol Llangennech yn Sir Gaerfyrddin yn ysgol cyfrwng Cymraeg, ei chario.

Mae llythyr Robin Llywelyn, Prif Weithredwr Portmeirion, wedi’i gyhoeddi yn rhifyn yr wythnos hon o Private Eye.

Mae’n dweud wrth y golygydd mai un a ddechreuodd danysgrifio’n ddiweddar ydi o, a hynny er mwyn “dianc” oddi wrth yr agwedd wrth-Ewropeaidd a chul yn y wasg yn gyffredinol.

Ac mae Robin Llywelyn yn cyhuddo Private Eye o gefnogi “eithafwyr” UKIP a Llafur sy’n gweithredu’n erbyn eu pleidiau eu hunain wrth beidio â chefnogi addysg Gymraeg.

“Mae cefnogaeth Private Eye i’r eithafwyr hyn yn siwr o fod yn mynd yn groes i egwyddorion y cyhoeddiad,” meddai Robin Llywelyn yn ei lythyr, “os ydi’r egwyddorion hynny’n cynnwys cefnogi lleiafrifoedd a hawliau dynol.”

Roedd Private Eye wedi cyhoeddi’r erthygl wreiddiol dan y teitl ‘Welsh Schools: Unhappy Medium’ ac wedi awgrymu y gallai “pob cymuned lle mae’r mwyafrif yn siarad Saesneg” gael ei “gorfodi” gan Lywodraeth Cymru i droi’r ysgol leol yn un cyfrwng Cymraeg.

“Mae digon o opsiynau eraill ar gyfer y rheiny sydd ddim yn dymuno rhoi addysg Gymraeg i’w plant,” meddai Robin Llywelyn yn ei lythyr yr wythnos hon.

“Mae cynlluniau’r ysgol wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd. Bydd hi o fudd i ddwyieithrwydd yn yr ardal yma, lle siaredir Cymraeg yn draddodiadol, a bydd plant yn derbyn manteision o gael dwy iaith.”