Syr Emyr Jones Parry, y Canghellor presennol
Mae grŵp o fyfyrwyr wedi beirniadu Prifysgol Aberystwyth am “na fydd angen i Ganghellor newydd y brifysgol allu’r Gymraeg”.

Ond mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwrthod honiadau grŵp Ffrindiau Pantycelyn, gan ddweud ei bod yn disgwyl y bydd y Canghellor newydd yn gallu siarad Cymraeg.

‘Pennaeth anweithredol y sefydliad’ yw’r Canghellor ac nid oes tâl am wneud y swydd.

Y siaradwr Cymraeg a’r cyn-ddiplomat, Syr Emyr Jones Parry, yw’r Canghellor presennol. Ond wedi deng mlynedd o wneud y gwaith – yr uchafswm posib – bydd yn gadael ar derfyn 2017.

Mae’r Brifysgol wedi penderfynu rhannu swydd Syr Emyr Jones Parry yn ddwy a chael ‘Canghellor y Brifysgol’ yn ogystal â ‘Chadeirydd Cyngor y Brifysgol’, sef corff llywodraethu’r Brifysgol.

Mae’r broses o benodi’r Canghellor wedi dechrau ond bydd proses ar wahân ar gyfer penodi’r Cadeirydd.

Dim swydd-ddisgrifiad

Does dim sôn yn y disgrifiad swydd am allu’r Canghellor newydd i siarad Cymraeg – ond mae Prifysgol Aberystwyth yn dweud ei fod yn ddiofyn y bydd olynydd Emyr Jones Parry yn medru siarad yr iaith.

Er hynny, gan mai proses enwebu sydd i’r swydd, dyw’r Brifysgol heb gyhoeddi swydd-ddisgrifiad, fel sydd mewn swyddi arferol.

“Oherwydd natur a dyletswyddau’r swydd, mae’n gwbl naturiol bod y Brifysgol yn disgwyl y bydd y  Canghellor nesaf yn medru’r Gymraeg,” meddai llefarydd Prifysgol Aberystwyth.

“Mae pedwar aelod o blith y panel dethol o chwech yn medru’r Gymraeg, ac mae pob un o’r chwe aelod yn gefnogol i’r diwylliant a’r iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Dyma’r tro cyntaf i’r Brifysgol benodi Canghellor ers ei sefydlu yn 1872 ac rydym yn gwahodd enwebiadau erbyn 3 Mawrth 2017. Yn wahanol i swydd Cadeirydd y Cyngor, bydd y Canghellor yn canolbwyntio’n bennaf ar ddyletswyddau llysgenhadol a seremonïol gan gynnwys graddio.”

Gofynion y myfyrwyr

Dywedodd Hedydd Elias, aelod o Ffrindiau Pantycelyn, sy’n ymgyrchu i ail-agor Neuadd Pantycelyn yn llety myfyrwyr. “Yn ogystal â medru siarad y Gymraeg, mae angen i’r Canghellor nesaf fod yn barod i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ei g/waith bob dydd, a hefyd barchu’r gymuned Gymraeg.

“Rydym yn gobeithio mai un o flaenoriaethau’r Canghellor nesaf fydd cadw at yr addewid i ailagor Neuadd Pantycelyn erbyn mis Medi 2019.”

Mae gan y myfyrwyr bryder hefyd dros y “diffyg ymgynghori” bu â myfyrwyr am y swydd o bwys.

“Mae hon yn swydd uchel iawn o fewn y Brifysgol, ond dyw’r brifysgol ddim wedi ymgynghori gyda myfyrwyr o gwbl ar hyn. Dydy hyn ddim yn seiliau da iawn am arweinyddiaeth a fydd yn para am o leiaf 5 mlynedd,” meddai Manon Elin, aelod arall o Ffrindiau Pantycelyn.

Ond mae Prifysgol Aberystwyth yn dweud y cafodd e-bost yn gofyn am enwebiadau ei hanfon at yr holl fyfyrwyr ar ddydd Llun yr wythnos hon.

Penodi Is-ganghellor di-Gymraeg

Ym mis Rhagfyr, penododd Prifysgol Aberystwyth Is-ganghellor newydd, sydd ddim yn medru’r Gymraeg i’r safon oedd yn cael ei nodi yn y swydd-ddisgrifiad ond mae wedi addo dysgu.

Er hynny, mae’r Athro Elizabeth Treasure wedi addo dysgu’r iaith at y safon oedd yn ofynnol.