Mae athrawon yn sir Torfaen yn gofidio am gynlluniau i uno chweched dosbarth nifer o ysgolion Saesneg y sir, yn ôl undeb NUT Cymru.

Bwriad y cyngor sir yw uno chweched dosbarth ysgolion Croesyceiliog, ysgol Gatholig St Alban’s ac Ysgol Uwchradd Cwmbrân, gan roi Coleg Gwent yn gyfrifol am gyrsiau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol, BTEC a Bagloriaeth Cymru yn hytrach na’r awdurdod lleol.

Mae cyfnod ymgynghori eisoes wedi’i gynnal, ac mae NUT Cymru a NASUWT wedi codi nifer o bryderon.

Yn ôl NUT Cymru, byddai arbenigedd rhai athrawon yn cael ei golli o uno nifer o ysgolion.

‘Pryder mawr’

Dywedodd ysgrifennydd yr undeb, David Evans: “Mae’r profiad hwnnw dros y blynyddoedd diwethaf wedi darparu’r cyfleoedd gorau mewn bywyd i’r disgyblion hynny sydd wedi cael canlyniadau ardderchog yn eu harholiadau flwyddyn ar ôl blwyddyn.

“Does dim byd yn y cynnig sy’n awgrymu y bydd Coleg Gwent yn gallu efelychu’r safon uchel o ran darpariaeth, gofal bugeiliol na pharhad addysg sydd wedi dwyn ffrwyth yn y gorffennol, ac mae hynny’n bryder mawr i’r bobol ifanc, eu rhieni a’r gymuned ehangach.”

Anfanteision

Yn ôl undeb NASUWT, byddai uno ysgolion yr ardal yn cynyddu amser teithio’r disgyblion, yn lleihau dewis ac yn gwastraffu arian y cyhoedd.

Dywedodd llefarydd: “Byddai lle gan rieni i boeni’n fawr pe bai’r cynigion hyn yn cael mynd rhagddynt a dod yn reality, fe allai arwain at lai o ddarpariaeth i blant yn y dyfodol.

“Rydym yn awyddus i gydweithio â’r awdurdod a rhanddeiliaid eraill i sicrhau’r ateb a’r cyfleoedd addysg gorau i bobol ifanc Torfaen.”