Mae pobol ifanc Cymru yn llai tebygol o gyflwyno cais am le mewn Prifysgol, o gymharu â’u cyfoedion yng ngwledydd eraill Prydain.

Yn ôl adroddiad UCAS, y corff sy’n derbyn ceisiadau, dim ond 32% o bobol ifanc yng Nghymru oedd wedi ymgeisio am le mewn prifysgol erbyn Ionawr 15 flwyddyn yma.

Roedd 48% o bobol ifanc yng Ngogledd Iwerddon wedi trio am le tra bod 37% yn Lloegr wedi ymgeisio.

Nid yw’r ystadegau yn berthnasol i’r Alban gan nad yw canran uchel o golegau’r Alban yn rhan o gynllun UCAS.

Cwymp mewn ceisiadau

Er bod cynnydd wedi bod ar draws Prydain yn y nifer o geisiadau coleg ers 2017, mae dwy etholaeth yng Nghymru ymysg yr 13 etholaeth sydd wedi gweld cwymp yn y ffigwr.

Yn Nwyrain Sir Gaerfyrddin a Dinefwr bu cwymp mewn ceisiadau  o 3.7%, gyda chwymp o 0.6% ym Mhreseli Sir Benfro.

Yn Wimbledon yn ne orllewin Llundain roedd ceisiadau coleg ar eu huchaf wrth i 70.3% o bobol ifanc ddanfon cais am le mewn prifysgol.

Rhwystr costau byw

Yn ôl Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymru mae costau byw tra’n y coleg yn ffactor.

“Mae’n siomedig nodi’r cwymp yn y nifer o fyfyrwyr Cymreig sy’n gwneud cais i astudio yn y brifysgol. Mae costau byw yn rhwystr enfawr i nifer o ddarpar-fyfyrwyr cael mynediad at addysg uwch,” meddai Fflur Elin.

“Rydym yn gwybod fod myfyrwyr yn wynebu costau cynyddol ymhob math o bethau, o drafnidiaeth a rhent, i filiau cyfleustodau ac adnoddau fel llyfrau cwrs. Ac yn fwy na hynny, gallai costau byw gynyddu eto unwaith fo’r Deyrnas Gyfunol wedi ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.”

Mae Undeb Myfyrwyr Cymru hefyd wedi galw am “system addysg uwch ‘a wnaed yng Nghymru’” ac am sicrhad bod Cymru’n atyniadol i fyfyrwyr rhyngwladol yn y dyfodol.