Ashley Talbot (llun o dudalen Facebook)
Damwain oedd marwolaeth bachgen ysgol a gafodd ei ladd gan fws mini y tu allan i’w ysgol, yn ôl dyfarniad rheithgor mewn cwest.

Ond mae’r Crwner am sgrifennu adroddiad i dynnu sylw at ei bryderon am yr amgylchiadau y tu allan i Ysgol Gyfun Maesteg pan gafodd Ashley Talbot, 15 oed, ei ladd ym mis Rhagfyr 2014.

Roedd y bachgen yn rhedeg gyda’i ffrind wrth geisio bod y cyntaf i fod ar ei fws am adref pan gafodd ei daro gan y bws mini a oedd yn cael ei yrru gan athro ymarfer corff.

“Gofyn am ddamwain”

Fe gymerodd dair awr o bwyso a mesur cyn i fwyafrif y rheithgor yn Llys y Crwner Aberdâr ei bod yn farwolaeth ddamweiniol.

Dywedodd Andrew Barkley, y crwner dros Bowys, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg, y bydd yn ysgrifennu adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol am y digwyddiadau.

Roedd y rheithgor gan yrrwr bws fod y ffordd ger Ysgol Maesteg yn “gofyn am ddamwain” oherwydd yr anhrefn yno.

Yr ysgol wedi gweithredu

Dywedodd y crwner y byddai’n cyfeirio’r adroddiad at yr ysgol a’r cyngor sir, ac yn anfon copïau at y Gymdeithas Lywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru.

Mae’r ysgol wedi cyflwyno polisïau newydd ers marwolaeth y llanc, sy’n cynnwys ehangu mannau parcio’r bysiau fel eu bod yn gallu parcio ar un ochr y ffordd.

Ac fe glywodd y cwest fod gwaharddiad ar geir wedi’I gyflwyno bellach rhwng 2:55 a 3:10 y prynhawn.

Mam Ashley â chanser y fron

Mewn datganiad, galwodd teulu’r bachgen am well diogelwch ffyrdd ger ysgolion, gan ychwanegu na ddylai unrhyw blentyn farw fel y gwnaeth Ashley.#

Fe ddaeth yn amlwg nad oedd mam Ashley Talbot wedi gallu bod yn y cwest yr wythnos hon am ei bod wedi cael diagnosis o ganser y fron.