Cyngor Gwynedd
Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi penderfynu ail-ddechrau ymgynghori ynglŷn â statws Campws Dysgu’r Bala.

Fe fyddai’r cynllun ar gyfer ysgol 3-19 newydd yn Y Bala yn uno Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol y Berwyn ar gampws Ysgol y Berwyn o dan yr Eglwys yng Nghymru.

Mae ymgyrch wedi bod yn lleol i sefydlu’r ysgol fel un gymunedol yn hytrach nag eglwysig gyda 1,000 o bobl wedi arwyddo deiseb.

Mae’r ddeiseb yn galw  “ar Gyngor Gwynedd i ddiddymu’r Bartneriaeth gyda’r Eglwys yng Nghymru ac i ail-hyrwyddo’r prosiect fel un ‘cymunedol’, lle na fydd gan yr ysgol newydd unrhyw gysylltiad statudol gydag enwad crefyddol penodol.”

Mae’r gwaith ar y safle wedi dechrau ym mis Gorffennaf 2016 gyda’r bwriad gwreiddiol o agor y campws newydd ym mis Medi 2018.

Roedd adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet yn argymell oedi’r penderfyniad er mwyn rhoi amser i ystyried y farn gyfreithiol ynglŷn â safiad diweddaraf yr Esgobaeth, yn ogystal â rhoi cyfle i swyddogion drafod y mater yn lleol gyda llywodraethwyr y dalgylch.