April McMahon
Mae undeb myfyrwyr wedi beirniadu prifysgol am roi £100,000 o “fonws” i gyn-bennaeth wedi iddi adael ei swydd.

Yn ôl Rhun Dafydd, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), mae’r arian a gafodd Yr Athro April McMahon gan Brifysgol Aberystwyth yn “anfoesol”.

Roedd April McMahon yn cael cyflog o £252,000 y flwyddyn ac fe adawodd y brifysgol ym mis Rhagfyr 2015.

Yn ôl Rhun Dafydd nid yw yn haeddu’r bonws, a hynny am fod ‘niferoedd myfyrwyr wedi cwympo, bod y brifysgol wedi syrthio i lawr tablau prifysgolion a bod bodlonrwydd staff wedi bod ar ei isaf’.

Mae llefarydd y Brifysgol wedi dweud wrth golwg360: “Mae’r Brifysgol yn gweithredu ar sail tryloywder ac yn cyhoeddi gwybodaeth am gyflogau staff uwch yn ein cyfrifon blynyddol. Er nad ydym yn trafod manylion achosion unigol yn gyhoeddus, nid yw taliadau o’r fath yn anghyffredin yn y sector ar adeg ymadawiad Is-Ganghellor ac mae unrhyw daliadau ynghlwm ag ymadawiad Is-Ganghellor yn cyd-fynd â gofynion cyfraith cyflogaeth.”

“Ddim yn gwneud synnwyr”

Yn ôl Rhun Dafydd, mae talu £100,000 i’r Athro McMahon yn hurt mewn cyfnod pan fo cynni ariannol o fewn y brifysgol.

“Mewn cyfnod lle mae llawer o brosiectau a datblygiadau sydd er budd y myfyrwyr yn y fantol oherwydd arbedion ariannol y brifysgol, dyw ddim yn gwneud llawer o synnwyr gwario swm anferthol ar fonws unigolyn sydd bellach wedi gadael,” meddai Llywydd UMCA.

“Mae’n fy siomi gan feddwl lle all y brifysgol wedi buddsoddi’r arian yma mewn agweddau fyddai wedi bod er lles y myfyrwyr ar gymuned leol.

“Dyw’r bonws ddim yn gwneud llawer o synnwyr oherwydd yn ystod ei chyfnod fel Is-ganghellor fe welwyd niferoedd myfyrwyr yn cwympo, Y brifysgol yn syrthio i lawr tablau Prifysgolion ac anfodlonrwydd staff ar ei isaf.”