Llun: PA
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi mynegi pryder am weithredu newidiadau i’r cwricwlwm cenedlaethol.

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams dywed  Cadeirydd y Pwyllgor Addysg, Lynne Neagle, bod “agweddau o weithrediad y newid ddim yn datblygu yn ôl y disgwyl.”

Mae disgwyl i’r cwricwlwm newydd, ‘Dyfodol Llwyddiannus’, sy’n seiliedig ar argymhellion yr Athro Graham Donaldson, gael ei gyflwyno erbyn 2018 a’i weithredu’n llawn erbyn 2021.

Yn y llythyr mae Lynne Neagle yn dadlau nad yw ysgolion yn glir o’r gofynion.

Mae’r pwyllgor hefyd wedi argymell bod y Llywodraeth yn cynllunio o flaen llaw rhag ofn bod y cynllun presennol yn methu.

“Syniadau heb dwyn ffrwyth”

Dywedodd Ysgol y Strade sy’n rhan o’r cynlluniau cynnar, bod “nifer o syniadau sydd heb dwyn ffrwyth” a dywedodd Estyn ei bod hi’n “heriol cydbwyso’r angen am welliannau cyflym gyda’r angen am newid sydd wedi’i ystyried yn gall.”

“Mae’r cynlluniau presennol yn gyffrous ac yn uchelgeisiol ond mae angen cynllun llawnach sydd yn fwy cydlynol,” meddai Cymdeithas Genedlaethol y Prif Athrawon i’r pwyllgor.

“Ar y cyfan dw i’n teimlo bod yna ddiffyg cyfeiriad a gweledigaeth o ran gwireddu gweledigaeth adolygiad Donaldson,” meddai aelod o Undeb Athrawon yr NUT.

‘Ansicrwydd’

Meddai Ywain Myfyr ar ran Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC): “Yn sgil cyhoeddiad adroddiad Yr Athro Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus, mae gennym gyfle, am y tro cyntaf i gael cwricwlwm arbennig i Gymru. Mae hyn yn cael ei groesawu yn fawr gan UCAC ond mae’n bryder mawr i ni bod cymaint o ansicrwydd yn bodoli o fewn ein hysgolion ynglŷn â’r datblygiadau hyn.

“Efallai bod yr Ysgolion Arloesi yn bwrw mlaen a’u gwaith yn llwyddiannus, ond mae angen rhannu’r wybodaeth yma fel bod trwch ein hysgolion yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd.”

“Er mwyn sicrhau’r llwyddiant dyladwy mae’n rhaid wrth y lefel cywir o ariannu er mwyn sicrhau’r hyfforddiant gorau posib i’r gweithlu cyfan. Gallai hyn olygu dyddiau hyfforddiant mewn swydd ychwanegol neu ryddhau athrawon ac arweinwyr o’u hysgolion os am ei wneud yn iawn.

“Ein pryder yw nad hyn yn digwydd ar hyn o bryd a bod y cwricwlwm newydd yn ychwanegu at lwyth gwaith athrawon sydd eisoes yn sylweddol.”