Myfyrwyr yn graddio (Llun: PA)
Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud y gallai hawliau newydd i fyfyrwyr prifysgolion a cholegau fod yn ‘gam ymlaen’, a hynny yn dilyn pleidlais i’w cymeradwyo yn y Cynulliad ddydd Mawrth.

Mae gwleidyddion Bae Caerdydd wedi cymeradwyo dyletswyddau iaith newydd ar gyfer colegau a phrifysgolion i ddarparu gwasanaethau drwy’r Gymraeg, sy’n cynnwys:

  • hawl myfyrwyr i gyfweliadau derbyn a chyfarfodydd Cymraeg;
  • llety Cymraeg;
  • mewnrwyd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg;
  • tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg
  • sefyll arholiadau ac asesiadau yn Gymraeg
  • gwasanaeth cwnsela a chymorth iechyd meddwl Cymraeg
  • gweld a chlywed y Gymraeg mewn seremonïau graddio

Ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhybuddio bod drafftio gwael gan weision sifil y Llywodraeth yn peryglu creu cymhlethdodau diangen.

‘Cam ymlaen’

“Er nad yw’r Safonau hyn yn berffaith, maen nhw’n gam ymlaen, does dim amheuaeth am hynny,” meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd y Gymdeithas. “Rydym yn falch bod y pwyso wedi dwyn ffrwyth o ran cryfhau hawliau myfyrwyr, fel yr hawl i lety Cymraeg a’r hawl i diwtor personol Cymraeg.

“Fodd bynnag, mae pryderon gyda ni o hyd am y ffordd mae gweision sifil wedi eu drafftio gan adael mannau gwan diangen. Gobeithio y bydd bwriad y Llywodraeth i gryfhau Mesur y Gymraeg yn gyfle i’r gwasanaeth sifil a’r Llywodraeth gymryd cam yn ôl a llunio deddfwriaeth iaith sy’n rhoi pobol Cymru a’r Gymraeg yn ganolbwynt iddo – yn hytrach nag ochri â chyrff mawr.

“Er bod Safonau’r Gymraeg yn symlach na’r hen gyfundrefn o gynlluniau iaith – yn sicr o safbwynt unigolyn sy’n cwyno – mae lle i wella. Un ffordd o sicrhau bod pobl yn gwybod beth yw eu hawliau yw gosod hawliau cyffredinol ar wyneb y ddeddfwriaeth a fydd yn adeiladu ar y Safonau. Dyna sydd angen ei wneud er mwyn creu Mesur sy’n symlach i’r cyhoedd ei ddeall.”