Kirsty Williams Llun: Gwefan y Dems Rhydd
Fe fydd awdurdod strategol newydd yn cael ei greu i rannu arian cyhoeddus i brifysgolion gan gymryd lle’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch (Hefcw).

Fe gyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, y bydd y corff newydd yn goruchwylio sgiliau, cyllid ar gyfer ymchwil a’r sectorau addysg uwch a phellach yng Nghymru.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn argymhellion adolygiad annibynnol gan yr Athro Ellen Hazelkorn, gydag ymgynghoriad llawn i ddilyn yn y gwanwyn.

Dywedodd Kirsty Williams bod yr Athro Hazelkorn wedi dod i’r casgliad “nad yw’r system bresennol yn canolbwyntio’n ddigonol ar ddysgwyr ac nid yw’n llwyr sicrhau gwerth am arian.”

Roedd yr adolygiad, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016, yn awgrymu:

  • Sefydlu un awdurdod rheoleiddio, goruchwylio a chydgysylltu ar gyfer y sector addysg ôl-orfodol.
  • Bydd y corff newydd yn gyfrifol am ariannu darpariaeth ar bob lefel a sicrhau ansawdd, a bydd yn brif gyllidwr ymchwil.
  • Rhoi anghenion dysgwyr wrth wraidd y system addysg drwy bennu llwybrau dysgu a gyrfa clir a hyblyg.
  • Rhoi’r un gwerth i lwybrau galwedigaethol a llwybrau academaidd a’r un cymorth, a gwella’r cysylltiadau rhwng cymwysterau a’r farchnad lafur.

‘Annog sefydliadau i gydweithio’

 

Dywedodd Kirsty Williams: “Mae’r ffiniau rhwng addysg uwch ac addysg bellach yn chwalu.

“Erbyn hyn mae bywyd gwaith yn hirach ac yn newid yn gyflym, ac mae arnom angen system sy’n ei gwneud yn haws i bobl ddysgu a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt drwy gydol eu gyrfa. Mae hyn yn digwydd ar adeg o newid mawr yn rhannau eraill o’r DU ac yng nghyd-destun Brexit.

“Caiff y sectorau a’r darparwyr amrywiol yng  Nghymru eu rheoleiddio a’u cyllido mewn ffyrdd gwahanol gan gyrff gwahanol, sy’n arwain at gystadlu, bylchau a dryswch i ddysgwyr.

“Daeth yr Athro Hazelkorn i’r casgliad nad yw’r system bresennol yn canolbwyntio’n ddigonol ar ddysgwyr ac nid yw’n llwyr sicrhau gwerth am arian. Roedd ei hadroddiad yn pwysleisio bod angen i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol weithredu fel un sector.

“Rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r cynigion hyn, ac mae’r model a argymhellir yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi’i brofi mewn systemau addysg llwyddiannus. Rwyf am i Gymru fwynhau’r un manteision.

“Dyma gyfle i greu system lle mae sefydliadau o bob math yn cael eu hannog i gydweithio i ddiwallu anghenion dysgwyr, a meithrin cysylltiadau cryf â’r byd busnes gan ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar ein heconomi.”