Llun: PA
Mae canlyniadau adroddiad newydd heddiw yn dangos fod llai o ysgolion ar draws Cymru yn disgyn i gategorïau lle mae angen lefelau uchel o gymorth arnyn nhw.

O dan y ‘System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion’, mae ysgolion Cymru yn cael eu dosbarthu i bedwar categori; gwyrdd, melyn, oren a choch.

Mae ysgolion categori gwyrdd yn cael eu hystyried o fod angen y lefel isaf o gefnogaeth, a’r rhai coch y lefel uchaf ar sail arweinyddiaeth, dysgu ac addysgu.

Mae canlyniadau’n dangos fod cynnydd o 5 pwynt canran yn yr ysgolion cynradd sy’n disgyn i’r categori gwyrdd, a 7 pwynt canran o ran y sector uwchradd.

Mae nifer yr ysgolion cynradd sydd angen cefnogaeth categori coch wedi disgyn 1 pwynt canran, a’r ysgolion uwchradd 2 pwynt canran.

Ac mae 41% o ysgolion arbennig wedi’u categoreiddio i fod angen y lefel isaf o gefnogaeth, tra bo 8% angen y lefel uchaf.

Croesawu’r gwelliant

 

“Mae’r ffigurau rydym wedi’u cyhoeddi heddiw yn dangos bod 84.4% o ysgolion cynradd a 64.6% o ysgolion uwchradd yn y categorïau gwyrdd a melyn erbyn hyn,” meddai’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

“Mae’r cynnydd hwn i’w groesawu, a bydd gan yr ysgolion hyn rôl allweddol i’w chwarae er mwyn cefnogi ysgolion eraill, drwy rannu eu sgiliau, eu harbenigedd a’u harferion da.

Dal yn ‘amheus’ 

Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi dweud eu bod yn dal yn “amheus” am y system hon “sy’n gosod ysgol yn erbyn ysgol.”

Ond maen nhw’n cydnabod fod y cynnydd yn deillio o waith caled staff ac athrawon.

“Mae’n dangos ymdrechion mawr ysgolion sy’n wynebu heriau enfawr y dyddiau yma o safbwynt llwyth gwaith, diffyg adnoddau ariannol a thoriadau staffio,” meddai Ywain Myfyr, Swyddog Polisi’r undeb.

“Wrth ystyried hyn i gyd mae’n rhyfeddol fod y sefyllfa wedi gwella.”

‘Dim darlun cywir o berfformiad ysgolion’

Mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr yng Nghymru Darren Millar wedi dweud bod y cynnydd sydd wedi bod yn y system categoreiddio yn wrthgyferbyniad i ganlyniadau “trychinebus” PISA ac adroddiad blynyddol “beirniadol” gan Estyn.

Dywedodd Darren Millar AC nad yw’r system yn “rhoi darlun cywir o berfformiad ysgolion yng Nghymru.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru esbonio pam fod y canlyniadau maen nhw wedi eu cyhoeddi heddiw yn mynd yn groes i asesiadau annibynnol o berfformiad ysgolion a wnaed gan PISA ac Estyn.”