Llun: PA
Mae adroddiad diweddaraf Estyn yn dweud fod angen i arweinwyr ym myd addysg greu mwy o gyfleoedd i wella medrau proffesiynol athrawon a gweithwyr y sector.

Yn ôl adroddiad Estyn o arolygiadau ysgolion 2015 – 2016, mae angen gwella ansawdd dysgu ac addysgu ar draws Cymru drwy annog staff i fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol.

Yn ôl Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd Estyn, “mae ar arweinwyr addysg angen ffocws cryf ar ddarparu cyfleoedd addas ar gyfer datblygiad proffesiynol staff ar bob lefel i feithrin addysgu a dysgu hyderus a chreadigol.”

“Trwy barhau i wella dysgu proffesiynol a chydweithio rhwng ysgolion y gallwn gael gwared ar yr amrywioldeb sy’n bodoli o hyd yn ein system addysg.”

‘Tangyflawni’

O ran canfyddiadau eraill yr adroddiad, fe gafodd tua saith o bob deg o ysgolion cynradd Cymru a arolygwyd safonau ‘da’ neu’n uwch, gyda safonau llythrennedd a rhifedd yn parhau’n gyson.

Er hyn, mewn tua thraean o’r ysgolion cynradd roedd y disgyblion mwya’ abl yn tangyflawni am nad oedd eu gwaith yn ‘ddigon heriol’.

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw fod mwy o amrywiaeth yng nghanlyniadau’r ysgolion uwchradd, gyda mwy o safonau ‘rhagorol’, ond hefyd ‘anfoddhaol’.

Dywed yr adroddiad: “mae’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth yn dda neu’n well mewn rhyw hanner o ysgolion uwchradd, ond yn y gweddill, nid yw arweinyddiaeth yn cael digon o effaith ar wella ansawdd y dysgu ac addysgu, a safonau.”

‘Diffyg arweinyddiaeth gref’

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AC bod “diffyg enfawr o arweinyddiaeth gref mewn tua hanner yr ysgolion ar draws Cymru yn dal athrawon a phlant yn ôl rhag cyflawni eu potensial. ”

“Yn syml nid yw hyn yn ddigon da ac yn agor y ffordd i edrych ar y rhesymau tu ôl i berfformiad trychinebus o wan yr asesiadau PISA diwethaf.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru arolygu canfyddiadau’r Arolygwr yn ofalus a gweithio gydag awdurdodau addysg lleol ac ysgolion sy’n methu datblygu strategaeth glir gyda thargedau ar gyfer gwelliant,” meddai.