Mae ymgyrchwyr iaith wedi diolch i Gyngor Sir Caerfyddin am gymeradwyo argymhelliad i droi Ysgol Gynradd Llangennech yn ysgol Gymraeg.

Mewn cyfarfod yng Nghaerfyrddin heddiw, fe bleidleisiodd cynghorwyr o blaid troi’r ysgol o fod yn un ddwyieithog, i fod yn un lle mae’r addysg yn Gymraeg.

“Rydyn ni’n ddiolchgar i Gyngor Sir Gaerfyrddin am ddangos arweiniad wrth ddechrau sicrhau na fydd unrhyw blentyn yn y sir yn cael ei amddifadu o addysg Gymraeg,” meddai David Williams, is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr ardal.

“Galwn nawr am symud ymlaen yn gyflym, heb rwystr pellach, i sicrhau fod pob plentyn yn datblygu’r sgil i weithio’n Gymraeg a Saesneg.

“Addysg Gymraeg yw’r unig ffordd o sicrhau bod plant yn gadael yr ysgol yn rhugl yn Gymraeg a Saesneg. Mae Cyngor Sir Gâr yn arwain y ffordd i weddill Cymru felly.”