Llun: PA
Mae cabinet Cyngor Powys yn cyfarfod heddiw i drafod cynlluniau a allai weld ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn cael ei sefydlu yn nhref y Trallwng.

Mae’r cynlluniau’n golygu mai dyma fydd yr ysgol cyfrwng Cymraeg penodedig gyntaf i’r dref a bydd yn cael ei chodi ar safle Ysgol Gynradd Maesydre ac yn darparu ar gyfer 150 o ddisgyblion.

Fe fydd hyn yn arwain at gau pedair ysgol, sef Ysgol Fabanod Ardwyn, Ysgol Gynradd Maesydre, Ysgol Fabanod Yr Eglwys yng Nghymru Gungrog ac Ysgol Fabanod Oldford.

Mae’r cynllun yn cynnwys datblygu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg dan reolaeth yr Eglwys yng Nghymru hefyd ar safle newydd ar dir ysgol uwchradd y Trallwng.

Addysg cyfrwng Cymraeg Powys

Mae pryderon wedi’u codi’n ddiweddar am gyflwr addysg Gymraeg yn y sir, gyda galwadau am ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mhowys.

Dywedodd y gantores Sian James dros y penwythnos bod peryg i’r Gymraeg “golli’r dydd yng ngogledd Powys” os nad oes ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cael eu datblygu.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys fod adroddiad yn cael ei gynnal i aildrefnu addysg uwchradd ar draws y sir.

Ychwanegodd mai “un o amcanion y rhaglen yw aildrefnu addysg cyfrwng Cymraeg, ‘gyda’r nod o sefydlu o leiaf un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y sir.”