Sally Holland, eisiau cofrestr (Llun Gwefan y Comisiynydd)
Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi galw eto am gofrestr gorfodol o blant sy’n cael eu haddysgu gartre’.

Ac mae Sally Holland yn dweud y dylai swyddogion addysg ymweld â’r plant i siarad gyda nhw o leia’ unwaith y flwyddyn.

Dyw’r cyngor sydd newydd gael ei ail-gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ddim yn mynd yn ddigon pell, meddai.

Diweddaru, ond dim newid

Mae’r Llywodraeth wedi diweddaru eu cyngor ynglŷn â phlant sy’n cael eu cadw  o’r ysgol er mwyn eu haddysgu yn y cartre’.

Ond does dim newid sylfaenol yn y drefn, meddai Sally Holland mewn cyfweliad ar Radio Wales – er ei bod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn y pen draw’n cyflwyno deddf newydd.

Mae  hi’n dweud bod eisio cofrestru pob plentyn sy’n cael addysg gartre’ er mwyn i gynghorau lleol allu rhoi cymorth iddyn nhw le bo angen ac er mwyn ymweld â’r plant i glywed eu barn nhw.

Mae mudiadau addysgu gartre’ wedi gwrthod y syniad gan ddweud bod hynny’n amharu ar eu hawliau dynol.

Y cefndir – marwolaeth bachgen bach

Fe gododd pryder ychwanegol am addysgu gartre’ yng Nghymru union flwyddyn yn ôl wedi i adroddiad ddod i’r amlwg am farwolaeth bachgen 8 oed yn Sir Benfro yn 2011.

Yn ôl yr ymchwiliad roedd Dylan Seabridge wedi marw o glefyd y sgyrfi, neu’r clefri poeth, ac wedi bod “yn anweledig” oherwdd ei fod yn cael ei addysg gartre’.