Llun: Cyngor Powys
Mae’r ymgynghoriad i ddyfodol addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgol uwchradd ym Mhowys yn cau heddiw.

Argymhelliad y cyngor ydy rhoi’r gorau i’r ddarpariaeth Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu gan olygu y bydd yn rhaid i ddisgyblion deithio i Ysgol Llanfair ym Muallt, sydd tua 16 milltir i ffwrdd, am eu haddysg Gymraeg.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor mai’r camau nesaf fydd adolygu’r ymateb i’r ymgynghoriad sydd wedi’i gynnal ers mis Tachwedd, cyn llunio adroddiad i’r cabinet ei ystyried.

Y dadleuon

Dyma’r ail ymgynghoriad i gael ei gynnal i adrefnu addysg Gymraeg yn y sir, ac mae’r Cyngor yn dadlau y bydd y trefniant hwn yn creu mwy o adnoddau addysg Gymraeg ar un safle i’r disgyblion.

Ond mae ymgyrchwyr yn pryderu y bydd llai o rieni o ardal Aberhonddu yn dewis anfon eu plant i ysgol cyfrwng Gymraeg oherwydd y pellter.

Powys yw un o’r ychydig siroedd yng Nghymru sydd heb ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd.