Mae adroddiad gan gorff arolygu ysgolion Cymru yn dweud bod angen i athrawon ysgolion cynradd reoli eu habsenoldeb yn well.

Yn ôl Estyn, mae angen monitro effaith absenoldeb athrawon a sicrhau bod gwaith athrawon cyflenwi yn cael ei fonitro’n rheolaidd.

Mae angen hefyd mynd i’r afael â darpariaeth staff cyflenwi yn y sector cyfrwng Cymraeg, yn ôl arolygwyr y corff.

Athrawon cyflenwi – ‘cadw’r plant yn brysur’

Mae’r adroddiad yn dweud bod y rhan fwyaf o athrawon cyflenwi yn defnyddio dogfennau’r ysgol i gynllunio gwersi, ond pan na fydd hynny ar gael, fe fyddan yn canolbwyntio ar gadw’r plant yn brysur, yn hytrach na chyflwyno gwers.

Fe wnaeth yr arolygwyr ganfod hefyd bod bron pob ysgol gynradd yn monitro absenoldeb athrawon pan fydd hynny o achos salwch ond nid am resymau eraill fel hyfforddiant, cynadleddau neu ddyletswyddau ysgol eraill.

Yn ôl Estyn, mae hyn yn golygu mai ychydig iawn o ysgolion cynradd Cymru sy’n gallu dweud pa mor aml y bydd disgyblion yn cael eu haddysgu gan rywun heblaw am eu hathro dosbarth.

“Mae angen i ysgolion cynradd wneud yn siŵr eu bod yn arfarnu effaith absenoldeb athrawon,” meddai Prif Arolygydd Estyn, Meilyr Rowlands.

“Gall monitro ac olrhain y rhesymau dros absenoldeb athrawon helpu i godi ymwybyddiaeth am effaith bosibl absenoldeb ar ddysgwyr. Dylen nhw hefyd fonitro gwaith athrawon cyflenwi yn rheolaidd i sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd priodol.”

Argymhellion pellach

Mae’r adroddiad yn argymell i Lywodraeth Cymru ddarparu arweiniad ar fonitro effaith athrawon sy’n absennol am resymau heblaw salwch.

Mae hefyd yn dweud y dylai’r Llywodraeth hyrwyddo eu dogfen arweiniad bresennol yn ehangach, yn ogystal â llunio dogfen ar reoli absenoldeb penaethiaid yn effeithiol.

Ac mae’r adroddiad yn argymell y dylai awdurdodau lleol drefnu hyfforddiant ar reoli presenoldeb y gweithlu ar gyfer pob pennaeth a rhoi meincnod i ysgolion gymharu eu cyfraddau presenoldeb â rhai eraill.

Yn ôl yr adroddiad, dylai ysgolion roi adborth i athrawon cyflenwi ar eu perfformiad hefyd, a sicrhau eu bod nhw bob amser yn gallu defnyddio dogfennau cynllunio gwersi.