Mae disgwyl i Gyngor Castell-nedd Port Talbot gymeradwyo cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg newydd mewn cyfarfod ddydd Mercher.

Bydd cabinet y cyngor yn cyfarfod i drafod cynlluniau ar gyfer ysgol newydd gwerth £31 miliwn ym Margam ar gyfer plant 3-16 oed.

Mae disgwyl i’r ysgol – fydd â lle i 1,455 o ddisgyblion – ddisodli Ysgol Gynradd Groes ac Ysgol Uwchradd Dyffryn.

Cafodd yr arian ar gyfer Ysgol Newydd Margam ei neilltuo ym mis Tachwedd.

Mae adroddiad eisoes yn awgrymu cymeradwyo’r cynllun, ac mae disgwyl i ymgynghoriad ddechrau ddydd Iau, a phara 28 diwrnod.

Byddai’r ysgol newydd yn agor ei drysau ar Fedi 1 y flwyddyn nesaf, gan arbed £7.5 miliwn mewn costau cynnal a chadw.