Ysgol Gynradd Rhosgadfan
Mae disgwyl i ysgol yng Ngwynedd a gafodd ei difrodi’n sylweddol gan wyntoedd cryfion Storm Barbara ddydd Gwener diwetha’, i ail-agor mewn lleoliadau dros-dro yn yr un pentre’.

Tra bod asesiadau yn cael eu cynnal i ran o Ysgol Rhosgadfan a gwaith atgyweirio sylweddoli ddilyn, mae ysbryd cymunedol yn y pentref yn golygu fod trefniadau yn cael eu gwneud fel fod nod i’r disgyblion ddychwelyd i’r ysgol mor gynnar a dydd Iau nesa’, Rhagfyr 5.

Fe fydd disgyblion ieuengaf Ysgol Rhosgadfan yn cael eu haddysgu ym mhrif ystafell ddigwyddiadau clwb pêl-droed y Mountain Rangers am y tro. Mae trefniadau hefyd yn cael eu gwneud gyda Cadw i ddisgyblion hŷn yr ysgol gael eu haddysgu yng Nghae’r Gors, hen gartre’r awdures Kate Roberts.

“Roedd y difrod a achoswyd i ran o’r ysgol ddydd Gwener diwethaf yn ddychrynllyd,” meddai Paul Carrm Pennaeth Ysgol Rhosgadfan, “ond mi fyddwn i’n hoffi datgan ein diolch a’n gwerthfawrogiad fel ysgol i bawb sydd wedi cynnig cymorth dros y dyddiau diwetha’.

“Ar ddiwrnod y storm ei hun ac ers hynny, mae’r cymorth a’r gefnogaeth sydd wedi ei gynnig wedi bod yn anhygoel.

“Mae’r holl ymateb wedi dangos fod ysbryd cymunedol yn fyw ac yn iach yn Rhosgadfan ac rydan ni’n ddiolchgar ein bod yn gallu sicrhau fod disgyblion yn dychwelyd i’w gwersi mor fuan yn y flwyddyn newydd.

“Ein nod ydi fod disgyblion yn dycwelyd i’w gwersi ar ddydd Iau, a byddwn yn diweddaru rhieni gyda’r holl drefniadau.”