Bydd cyfarfod brys yn cael ei gynnal ar ôl y Nadolig i drafod dyfodol ysgol a gafodd ei difrodi gan wyntoedd cryfion ddydd Gwener.

Cafodd to’r ysgol ei ddifrodi’n bennaf, ac mae’r safle wedi cael ei ddiogelu am y tro wrth i asesiad gael ei gynnal.

Cyrhaeddodd gwyntoedd gyflymdra o 60 milltir yr awr mewn rhai ardaloedd ddiwedd yr wythnos.

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd disgyblion yn cael dychwelyd i’r ysgol ar ôl y gwyliau ar Ionawr 3.