Yr-Athro-Elizabeth-Treasure, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth (Llun: Prifysgol Aberystwyth)
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi’r Athro Elizabeth Treasure yn Is-ganghellor y Brifysgol.

Bydd yn gadael ei swydd fel Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd lle mae ganddi gyfrifoldeb dros brosiectau ym maes cynllunio strategol, adnoddau, datblygu cynaliadwy, staffio ac ystadau.

Dydy’r Is-ganghellor newydd ddim yn medru’r Gymraeg i’r safon oedd yn cael ei nodi yn y swydd-ddisgrifiad ond mae wedi addo dysgu.

“Rwy’n ymwybodol iawn o gyfraniad allweddol Aberystwyth tuag at ddatblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch ac at fywyd diwylliannol Cymru yn gyffredinol,” meddai mewn datganiad.

“Fel yr Is-ganghellor nesaf, mae dysgu’r iaith i’r safon a nodwyd yn y swydd ddisgrifiad yn flaenoriaeth ac yn fwriad pendant gennyf er mwyn i mi gofleidio pob agwedd ar fywyd Aber.”

Bydd yn dechrau yn ei swydd ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Syr Emyr Jones Parry – arwain y dewis

“Gwnaeth argraff ar y pwyllgor dewis gyda’i gweledigaeth strategol ar gyfer dyfodol y sefydliad, ei deallusrwydd a’i didwylledd,” meddai Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Brifysgol oedd yn arwain ar y broses benodi.

“Ar adeg heriol i’r sector addysg uwch, rwy’n hyderus y bydd yr Athro Treasure yn arwain y Brifysgol arbennig iawn yma at lefelau newydd o lwyddiant.”

Mae gan Elizabeth Treasure radd BDS mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol ynghyd â doethuriaeth o Brifysgol Birmingham.

Roedd yn byw yn Seland Newydd lle’r oedd ganddi ddwy rôl fel Deintydd Iechyd y Cyhoedd ac fel Darlithydd, yna’n Uwch Ddarlithydd, ym Mhrifysgol Otago.

Daeth i Gymru yn 1995 ar ôl cael ei phenodi’n Uwch Ddarlithydd ac Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus Deintyddol yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Cymru.