Mae Llywodraeth Cymru yn lansio ymchwiliad i safon hyfforddiant athrawon yng Nghymru.

Fe fydd yr ymchwiliad yn ystyried honiadau adroddiad gan yr Athro John Furlong bod safonau dysgu athrawon Cymru yn annigonol.

Bydd Aelodau hefyd yn edrych ar yr hyn sydd angen ei wneud i baratoi athrawon ar gyfer cwricwlwm newydd radical, fel yr argymhellwyd gan Adolygiad Donaldson.

Yn ôl Aelod y Cynulliad a  Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Lynne Neagle: “Bydd cyflwyno cwricwlwm newydd radical yn gofyn am staff addysgu sydd â’r sgiliau gorau a’r hyder i’w defnyddio.”

Mae’r ymgynghoriad yn dilyn cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, fis Gorffennaf ei bod yn bwriadu datblygu strategaeth glir ar gyfer dyfodol maes addysgu yng Nghymru.