Mae’r Eglwys yng Nghymru yn mynnu nad yw wedi “tynnu nôl” o gynllun i uno tair ysgol yn y Bala.

Mewn datganiad dywedodd yr Eglwys yng Nghymru bod “camddealltwriaeth” wedi bod ac nad yw’n deall sut y bu i Gyngor Gwynedd feddwl nad oedd yn gefnogol i’r cynllun.

Bore ‘ma fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod yr eglwys wedi newid ei safiad ar gynllun i sefydlu campws i ddisgyblion 3-19 oed, er ei fod wedi rhoi sêl bendith i’r cynnig y llynedd.

Cyhoeddodd llefarydd y cyngor bod cyfarfod wedi’i drefnu i ystyried a ddylid ail-ystyried y penderfyniad neu beidio.

Ond mae’r Eglwys yng Nghymru wedi galw am gyfarfod brys i ddatrys y camddealltwriaeth.

Mae mwy na £10 miliwn wedi ei glustnodi ar gyfer y datblygiad, lle bydd Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol y Berwyn yn uno i greu campws mawr a’r gwaith ar y datblygiad eisoes wedi dechrau.

‘Diffyg cyswllt’

 

Dywedodd yr Eglwys: “Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi’i hymrwymo’n llwyr i ddatblygu campws dysgu 3-19 newydd yn Y Bala a dydy hi ddim wedi ‘tynnu’n ôl’ o’r prosiect.

“Fedrwn ni ddim deall pan fod Cyngor Gwynedd wedi dod i’r casgliad hwn a gofynnwn am gyfarfod brys wyneb yn wyneb i ddatrys y camddealltwriaeth.

“…Y prif fater y tro hwn ydy safle Ysgol Beuno Sant. Mae Cyngor Gwynedd wedi’i gwneud hi’n glir nad ydy safle Ysgol Beuno Sant, ar ei ffurf bresennol, yn ffurfio rhan o’r prosiect ysgol newydd. Fodd bynnag, mae’n hi’n gwbl bosib gwerthu safle Ysgol Beuno Sant a’r elw i fynd at gost ysgol newydd. Yn ôl ein hamcangyfrif ninnau, gall y ffigwr hwn fod dros chwarter miliwn o bunnoedd.

“…Mae Esgobaeth Llanelwy’n methu deall pam na fase Cyngor Gwynedd am fanteisio ar yr arian hwn.

“Yn ei holl ohebiaeth gyda Chyngor Gwynedd, mae Esgobaeth Llanelwy wedi pwysleisio’i dymuniad i weithio ar y cyd ac wedi gofyn droeon i gael cyfarfod â swyddogion. Dydy Esgobaeth Llanelwy ddim yn deall pam na fu hyn yn bosib”.