Pencadlys Cyngor Gwynedd
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi dweud nad yw’n gefnogol i gynllun i uno un o’i ysgolion gyda dwy ysgol arall yn ardal Y Bala – er ei fod wedi rhoi sêl bendith i’r cynllun ychydig dros flwyddyn yn ôl.

Mae mwy na £10 miliwn wedi ei glustnodi ar gyfer y datblygiad ar safle Ysgol y Berwyn, lle bydd Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol y Berwyn yn uno i greu campws ar gyfer disgyblion 3-19 oed. Ac mae’r gwaith ar y safle wedi dechrau ym mis Gorffennaf gyda’r bwriad o agor y campws newydd ym mis Medi 2018.

Cafodd ymgynghoriad ar y cynlluniau ei gynnal gyda’r cyhoedd a’r Eglwys ond bellach mae Esgobaeth Llanelwy wedi datgan diffyg cefnogaeth i’r cynllun yn ei ffurf bresennol.

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn cwrdd ddydd Mawrth, 13 Rhagfyr i drafod a ddylid ail-ystyried y penderfyniad.

Rhesymau technegol

Credir bod yr eglwys yn anhapus a’r cynllun yn sgil rhesymau technegol yn ymwneud a’r ffurf cyflwynwyd y cynnig.

Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Mae ad-drefnu addysg yn ardal Y Bala wedi bod ar yr agenda ers mwy na phum mlynedd bellach ac mae’n deg dweud fod gwir awydd yn lleol i weld y Campws yn agor ei ddrysau yn Medi 2018.

“Yn anffodus, yn dilyn cyfnod hir o gydweithio cynhyrchiol ar y prosiect, a chyda gwaith sylweddol eisoes wedi hen gychwyn ar y safle, mae Esgobaeth Llanelwy bellach wedi ein hysbysu nad ydynt yn gefnogol i’r datblygiad yn ei ffurf bresennol.

“O’r herwydd, bydd y mater yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i ystyried y sefyllfa a’r ffordd ymlaen yng ngoleuni newid safiad yr Esgobaeth. Fel rhan o’r drafodaeth, byddwn hefyd yn ystyried os dylid agor trafodaethau ffurfiol gyda llywodraethwyr ysgolion dalgylch Y Berwyn ar yr opsiwn i dynnu’r cynnig presennol yn ei ôl, ac ail gychwyn proses ymgynghori statudol o’r newydd.”

Os ydi’r Cabinet yn penderfynu mabwysiadu’r argymhelliad, byddai’r Cyngor yn trafod unrhyw oblygiadau cyllidol posib yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru.