Fferm Penglais, Prifysgol Aberystwyth (Llun: Prifysgol Aberystwyth)
Mae neuaddau preswyl diweddaraf Prifysgol Aberystwyth wedi ennill gradd llety pum seren gan Croeso Cymru.
Mae’r dyfarniad wedi’i roi am ansawdd, cyfleusterau a gwasanaethau Fferm Penglais a agorodd i fyfyrwyr yn 2015.

Mae Fferm Penglais yn cynnig llety ar gyfer 1,000 o fyfyrwyr ac fe gostiodd tua £45m i’w adeiladu.

Dyma’r llety myfyrwyr cyntaf yng Nghymru i gael y radd hon yng nghategori ‘Llety Campws’.

“Mae’r cynllun yn wych ac mae’n cynnig llety en-suite mewn fflatiau a stiwdios hardd eu dyluniad i bob ymwelydd,” meddai Croeso Cymru yn eu hasesiad.

‘Gosod y bar’

Fel rhan o’r llety mae ardal o’r enw ‘Hyb’ sy’n cynnig gofod eistedd cyffredinol ar gyfer y preswylwyr a’r ymwelwyr.

“Ers agor yn 2015, mae Fferm Penglais yn cynnig llety myfyrwyr sydd ymhlith y gorau ym Mhrydain,” meddai Jim Wallace, Cyfarwyddwr Campws y Brifysgol a’r Gwasanaethau Masnachol.

“Ar ben hynny fel y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i dderbyn achrediad campws pum seren, rydym yn falch iawn i fod yn rhan o osod y bar yn uwch ar draws y sector yng Nghymru a gwella ymhellach yr enw da sydd gan brifysgolion Cymru o ran sicrhau safonau o ansawdd ar gyfer ein hymwelwyr.”

Penseiri ar waith ym Mhantycelyn

Y bwriad yn wreiddiol oedd y byddai’r llety hwn yn dod yn gartref i fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol gan gau Neuadd Pantycelyn.

Ond bu ymgyrchu chwyrn ac mae’r brifysgol bellach yn gobeithio ailagor Neuadd Pantycelyn erbyn 2019 ar ôl cwblhau gwaith adnewyddu.

Ym mis Hydref, fe wnaethon nhw gyhoeddi eu bod wedi penodi penseiri o gwmni Lawray i ymgymryd â’r prosiect £10m i ddarparu 200 o ystafelloedd en-suite ar gyfer myfyrwyr ynghyd â darpariaeth arlwyo.