Llun: PA
Mae wedi dod i’r amlwg heddiw na fydd yn rhaid i blant blwyddyn 5 a 6 ardal Dolgellau ymuno â disgyblion yr ysgol uwchradd ar safle newydd Ysgol Bro Idris ym mis Medi.

Yn ôl rhaglen y Post Cyntaf BBC Cymru, fe ddaeth corff llywodraethol cysgodol yr ysgol i’r casgliad mewn cyfarfod neithiwr fod “angen mwy o ymchwil” cyn gweithredu hynny.

Roedd nifer o rieni wedi gwrthwynebu’r syniad o gyfuno plant rhwng naw ac 13 oed ar un safle.

Chwe safle

Fe fydd ysgol uwchradd Bro Idris yn agor ym mis Medi 2017 ar gyfer disgyblion 3-16 oed ar chwe safle gwahanol, sef un ysgol uwchradd a phump cynradd ar safleoedd Llanelltyd, Y Friog, Dolgellau, Dinas Mawddwy a Rhydymain.

Mae’r ad-drefnu hefyd yn golygu y bydd ysgolion y Brithdir a Ganllwyd yn cau ynghyd ag Ysgol Uwchradd y Gader.

Un fu’n gwrthwynebu’r syniad o gyfuno plant naw i 13 oed ar un safle oedd Sioned Rees ac wrth siarad â’r Post Cyntaf y bore yma dywedodd ei bod fel rhiant am weld “ymgynghoriad agored a thryloyw” ar yr hyn fydd yn digwydd nesaf.

‘Ymgysylltu pellach’

“Yn unol â’r addewid, mae’r Corff Cysgodol wedi ystyried yr holl adborth, ac wedi penderfynu y dylid cynnal gwaith ymgysylltu pellach cyn ystyried cyflwyno newidiadau fyddai o bosib yn arwain at newid y strwythur pontio rhwng oed cynradd a’r uwchradd,” meddai Helen Jones, Cadeirydd Corff Cysgodol Ysgol Bro Idris.

“O’r herwydd, ni fyddwn yn cyflwyno’r opsiwn cychwynnol a wyntyllwyd yn y Newyddlen a’r sesiynau galw heibio gyda rhieni, a gallwn gadarnhau y bydd disgyblion meithrin hyd flwyddyn 6 yn derbyn eu haddysg ar y safleoedd cynradd pan fydd Ysgol Bro Idris yn agor ym Medi 2017.”

Dywedodd y bydd y corff yn parhau i ymchwilio i “ddulliau newydd posib” ac yn ymgynghori a rhieni.