Cyngor Gwynedd
Mae ymgynghoriad ar fin dod i ben dros gynlluniau dadleuol i ad-drefnu addysg yn ardal Dolgellau.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys sefydlu un ysgol fawr dan ysgol gymunedol Bro Idris ar gyfer plant rhwng 3-16 oed.

Mae’r model addysg posib yn cynnig rhannu’r ysgol yn dair rhan, gyda’r rhan gyntaf ar gyfer disgyblion rhwng tair a naw oed, gydag ail ran ar gyfer disgyblion naw i 13 oed, ac yna disgyblion 13 i 16 oed.

Mae’r cynlluniau wedi ennyn ymateb chwyrn gan rieni ac mae deiseb wedi cael ei threfnu gan un o’r rhieni i wrthwynebu’r syniad.

‘Dilyniant effeithiol’

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Barn arweinyddiaeth yr ysgol, ar ôl edrych yn agos ar fodelau tebyg mewn ardaloedd eraill, ydi y byddai model o’r fath yn sicrhau dilyniant effeithiol o addysg gynradd i’r uwchradd. Byddai hefyd yn sicrhau cydweithio a chydgynllunio effeithiol rhwng yr athrawon.”

Ysgol dalgylch cyfrwng Cymraeg 3-16 oed ar safleoedd presennol ysgolion Y Gader, Cynradd Dolgellau, Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Dinas Mawddwy, Llanelltud a Friog ar 1 Medi 2017, gydag ysgolion cynradd  Clogau, Ganllwyd, Brithdir yn cau.

Wrth i’r ymgynghoriad ddod i ben ddydd Mawrth, fe fydd Cyngor Gwynedd yn gwneud penderfyniad ar ôl ystyried yr adborth.

“Mae’n bwysig tanlinellu mai ymgysylltu ar y model posib sy’n digwydd ar hyn o bryd. Ni fydd corff llywodraethu cysgodol yr ysgol yn gwneud penderfyniad ar y ffordd orau ymlaen nes y bydd yr holl adborth gan rieni wedi cael ei ystyried yn ofalus.”