Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd iawndal yn cael ei dalu i fyfyrwyr o Gymru na chafodd fenthyciadau yn dilyn camgymeriad.

Ar ôl cael benthyciad i wneud graddau pellach yn Lloegr a dechrau ar eu cyrsiau, cafodd 68 o fyfyrwyr o Gymru wybod nad ydyn nhw yn gymwys am yr arian a chafodd eu benthyciad ei dynnu’n ôl.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod y cwmni wedi cynnig sicrwydd y bydd y myfyrwyr sydd wedi colli arian yn cael eu digolledu.

“Cwbl annerbyniol”

“Mae sefyllfa hon yn gwbl annerbyniol,” meddai’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

“Heb unrhyw fai arnyn nhw, roedd y myfyrwyr hyn yn wynebu’r posibilrwydd o beidio â chael y gefnogaeth ariannol oedden nhw’n ei disgwyl, i gyd o achos camgymeriad gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr.

“Rydym wedi bod yn trafod â Chyllid Myfyrwyr Lloegr a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn galw arnyn nhw i roi cymorth i’r sawl sydd wedi’u heffeithio a sicrhau nad oes neb yn dioddef yn ariannol.

“O ganlyniad, mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi ein sicrhau y bydd pob opsiwn posib yn cael ei ddefnyddio i ddigolledi’r sawl sydd wedi dioddef o golled ariannol o ganlyniad i’r camgymeriad.

“Rydym yn deall eu bod wedi ysgrifennu at y myfyrwyr sydd wedi cael eu heffeithio i’w cynghori am sut i apelio a gwneud cwyn swyddogol.”

“Carbwl anfaddeuol”

Dywedodd Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Addysg, fod camgymeriad y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn “garbwl anfaddeuol”.

“Mae ei gamgymeriad wedi difetha cynlluniau myfyrwyr sydd eisoes yn ceisio ymdopi â’r pwysau o fethu â chael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru,” meddai.

“Dylen nhw gael iawndal cyn gynted â phosib am unrhyw golledion a gododd o ganlyniad i’r anallu hwn.”

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud nad oes yna reoliadau ar hyn o bryd a fyddai’n galluogi iddyn nhw roi cymorth i fyfyrwyr Cymru sydd am astudio graddau pellach.

Fodd bynnag, byddan nhw’n cyflwyno rheoliadau i wneud hynny ar gyfer 2017/18 fel rhan o’u hymateb i adolygiad Diamond yr wythnos nesa’.

Mae hyn yn cynnwys argymhellion ar gymorth grant i fyfyrwyr ôl-raddedig.