Port Talbot - y canol (Jonathan Billinger CCA 2.0)
Mae arian wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer adeiladu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd gwerth £17 miliwn ym Mhort Talbot.

Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi addo rhoi £10.69 miliwn tuag at y datblygiad newydd a fydd yn creu lle ar gyfer 650 o blant 11-16 oed.

Fe ddywedodd y bydd y datblygiad yn bodloni’r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn ne Sir Castell Nedd Port Talbot, gan mai dim ond un ysgol uwchradd Gymraeg – Ystalyfera – sydd yn y sir ar hyn o bryd, a hynny yn y pen gogleddol.

Fe fydd yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ar safle hen Ysgol Gyfun Sandfields ac yn dod dan adain Ystalyfera.

Ysgolion yr 21ain ganrif

Mae’r arian sy’n cael ei roi gan Lywodraeth Cymru yn rhan o’i Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif.

“Dyma enghraifft arall o sut mae ein Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif yn canolbwyntio adnoddau ar yr ysgolion cywir yn y mannau cywir,” meddai Kirsty Williams.

“Un ysgol uwchradd Gymraeg yn unig sydd gan yr awdurdod lleol ar hyn o bryd, ac mae’r ysgol honno yng ngogledd y sir. Bydd yr arian hwn yn helpu i fodloni’r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn y rhanbarth ac yn lleihau dipyn ar yr amser teithio i rai disgyblion.”