Fe fydd ymgynghoriad ar roi’r gorau i’r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgol uwchradd ym Mhowys yn dechrau yr wythnos nesa’.

Mae Cyngor Powys am gasglu barn rhieni, athrawon a’r cyhoedd ar symud y ffrwd Gymraeg o Ysgol Uwchradd Aberhonddu i gampws yn Llanfair ym Muallt, sydd tua 16 milltir i ffwrdd, hanner awr mewn bws.

Mae’r newid yn cael ei awgrymu gan mai dim ond “nifer fechan” o ddisgyblion sy’n dewis dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, yn ôl y cyngor.

Bydd yr ymgynghoriad yn cychwyn Tachwedd 21 ac yn para tan Ionawr 9, gyda chyfarfod yn cael ei gynnal ar y mater yn yr ysgol ar Ragfyr 1.

Daw ar ôl i aelodau’r cyngor bleidleisio ar 27 Medi tros ail-ystyried cau’r ffrwd Gymraeg yn yr ysgol ar gyfer disgyblion 11-16 oed.

Powys yw un o’r ychydig siroedd yng Nghymru sydd heb ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Jones, yr aelod Cabinet tros Addysg: “Mae pobol yr ardal yn gwybod ein bod wedi holi am addysg Gymraeg yn ne Powys o’r blaen, ond rydym am ymgynghori a nhw eto ar gynnig newydd.