Ysgol Pentrecelyn, Rhuthun Llun: Gwefan yr ysgol
Mae disgwyl i Gyngor Sir Ddinbych roi’r gorau i gynllun dadleuol heddiw a fyddai wedi uno dwy ysgol wledig yn y sir.

Y bwriad yn wreiddiol oedd cau Ysgol Pentrecelyn ger Rhuthun a’i huno ag ysgol ddwyieithog yr Eglwys yng Nghymru yn Llanfair Dyffryn Clwyd ar safle newydd.

Byddai’r ysgol newydd, o ganlyniad, wedi disgyn o dan gategori iaith 2 a bu nifer o rieni ac ymgyrchwyr lleol yn ymgyrchu yn erbyn hynny.

Arweiniodd hyn at Adroddiad Barnwrol yn yr Uchel Lys yn Llundain ym mis Awst eleni a ddaeth i’r casgliad bod Cyngor Sir Ddinbych yn “ddryslyd anobeithiol.”

Dyna oedd y tro cyntaf erioed i lys ymyrryd mewn achos i gau ysgol oherwydd methiant i asesu’n ddigonol beth fyddai effaith cau’r ysgol ar yr iaith Gymraeg. Mae’n cael ei disgrifio fel achos hanesyddol gan ymgyrchwyr oedd eisiau cadw’r ysgol ar agor.

Yr argymhelliad…

Wrth i’r Cyngor gwrdd heddiw, mae disgwyl iddynt gymeradwyo argymhelliad i gadw Ysgol Pentrecelyn ar agor yn union fel y mae, sef o dan gategori iaith 1.

Mae disgwyl iddynt hefyd gymeradwyo cynllun i adeiladu ysgol newydd ar gyfer ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd fydd yn ysgol categori iaith 2.