Doedd 51% o ferched Cymru ddim yn ymwybodol o werth pynciau gwyddonol fel technoleg, peirianneg a mathemateg, tra’n tyfu i fyny, yn ôl pôl piniwn newydd gan y Brifysgol Agored.

Doedd 90% o ferched a gymerodd ran yn y pôl ddim yn gallu enwi un ferch flaenllaw yn y meysydd hynny, a dywedodd 60% eu bod yn difaru nad oedden nhw wedi dilyn gyrfa yn y byd gwyddoniaeth.

Cafodd y pôl ei gynnal ar drothwy Diwrnod Cyflog Cyfartal yfory, ac mae’n nodi nifer o rwystrau i ferched, gan gynnwys diffyg cyfeiriad yn yr ysgol a chred fod y diwydiant yn cael ei arwain gan ddynion.

“Maes sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion” oedd yr ymateb a gafodd ei roi amlaf.

Cywiro’r broblem

Dywedodd Canghellor y Brifysgol Agored, Martha Lane Fox: “Tra ei bod hi’n galonogol clywed am awydd ymysg merched i ddilyn gyrfaoedd yn y byd gwyddonol, mae’r un mor siomedig bod merched yn cael eu dal yn ôl oherwydd diffyg cyfeiriad yn yr ysgol.

“Yn ogystal, mae absenoldeb modelau rôl a diwydiant a arweinir gan ddynion wedi bod yn rhwystr.

“Mae angen i ysgolion a busnesau wneud mwy i gynorthwyo merched o fewn y sector.”