Cyngor Sir Ceredigion
Mae Cabinet Cyngor Ceredigion yn cyfarfod heddiw i drafod dyfodol pedair ysgol wledig yn Nyffryn Aeron, ac mae disgwyl iddyn nhw gymeradwyo’r cynnig i sefydlu ysgol ardal.

Er hyn mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw arnyn nhw i ohirio’r penderfyniad tan yr wythnos nesaf gan y bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, yn gwneud datganiad am ysgolion gwledig yn y Senedd.

Ond mae argymhelliad y Cyngor yn nodi y dylid parhau â’r opsiwn i greu ysgol ardal ar safle canolfan Addysg Felin-fach ac i ystyried wedyn “unrhyw gyfarwyddeb neu ganllawiau newydd” a ddaw gan yr Ysgrifennydd Addysg.

Galw am ohirio…

Yr ysgolion dan sylw yw Cilcennin, Ciliau Parc, Dihewyd a Felin-fach, ac ym mis Mai fe wnaeth y Cyngor ffafrio opsiwn i’w huno ar safle Campws Addysg Felin-fach.

“Dyma rai o gymunedau Cymreiciaf Ceredigion, a chymunedau sydd am gadw ysgolion yn eu pentrefi. Pam felly rhuthro i wneud penderfyniad i gau pedair ysgol er mwyn creu ysgol ardal ar safle anaddas?,” meddai Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith.

 

“Rydyn ni’n gofyn i aelodau’r Cabinet ohirio trafodaeth ar yr ysgolion nes eu cyfarfod nesaf er mwyn clywed beth sydd gan yr Ysgrifennydd Addysg i’w ddweud,” meddai wedyn.