Mae’n debyg mai dim ond 10% o werslyfrau newydd gafodd eu cyfieithu i’r Gymraeg ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.

Mae golwg360 wedi gweld llythyr a ysgrifennwyd gan Weinidog y Gymraeg, Alun Davies, sy’n dangos mai pump llyfr oedd wedi’i gyfieithu mewn pryd ar gyfer dechrau’r flwyddyn addysgol eleni, o rhestr o 47 o lyfrau.

Mae disgwyl i 16 o’r llyfrau gael eu cyfieithu yn ystod tymor yr hydref ond does dim dyddiad cyhoeddi i’r 26 arall.

Yn ôl Llyr Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru ar Addysg, mae hyn yn “annerbyniol” ac mae e am wybod os oes mwy o lyfrau sydd wedi’u cyhoeddi y flwyddyn hon sydd heb eu cyfieithu.

“Dw i wedi fy synnu bod cyn lleied o drefn, yn ymddangosiadol beth bynnag, ar gael deunydd wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n annerbyniol bod ‘na gyrsiau yn cael eu dysgu yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg heb fod y gwerslyfrau ar gael wedi’u cyfieithu yn broffesiynol ac wedi’u cyhoeddi fel y bydden i’n disgwyl iddyn nhw fod wedi cael eu gwneud mewn gwlad dwyieithog.

Ymateb CBAC

Mewn datganiad i golwg360, dywedodd CBAC fod prinder o adnoddau cyfrwng Saesneg ar gael cyn dechrau addysgu a bod hyn wedyn yn “arwain at oedi yn argaeledd adnoddau cyfrwng Cymraeg.”

“Er rydym yn ymwybodol o’r sialensiau y mae llywodraethau a rheoleiddwyr yng Nghymru ac yn Lloegr yn eu hwynebu, maent yn gweithredu rhaglen cymwysterau lle nad ydynt yn cadw at yr egwyddor gyffredinol bod manylebau yn cael eu cymeradwyo 12 mis cyn dechrau addysgu,” meddai llefarydd.

“Mae’r llinell amser yma wedi arwain at nifer adnoddau cyfrwng Saesneg prin ar gael cyn dechrau addysgu (ac mewn rhai achosion nid ydynt ar gael o hyd), sy’n arwain at oedi yn argaeledd adnoddau cyfrwng Cymraeg.”

Mae’r corff yn dweud na allan nhw gyfieithu gwerslyfrau i’r Gymraeg nes i CBAC dderbyn y proflenni terfynol Saesneg gan y cyhoeddwyr.

Dywed bod 20 o werslyfrau “yn yr arfaeth” i’w gael eu cyfieithu a bod stoc o lyfrau pynciau TGAU  eisoes wedi’u cyfieithu neu yn cael eu cyfieithu ar hyn o bryd.

Cyhoeddwyr y fersiynau Saesneg sy’n gyfrifol am gyhoeddi’r fersiynau Cymraeg, yn ôl CBAC, a does dim rheolaeth ganddo ar bryd fydd y llyfrau’n cael eu cyhoeddi.

Galw am oedi cyn cyflwyno cyrsiau

Yn ôl yr Aelod Cynulliad, dylid ddim cyflwyno cyrsiau TGAU a Lefel A newydd yn y Gymraeg tan fod yr adnoddau Cymraeg ar gael.

“Petai ‘na sefyllfa lla mae’r adnoddau Saesneg heb gael eu cyfieithu, buasai’r cyrsiau yna ddim yn cael eu dysgu a dw i ddim yn gweld pam y dylai’r Gymraeg gael ei thrin yn wahanol.”

“Alla i ddim credu nad oes modd i CBAC a Llywodraeth Cymru ddod o hyd i ffordd i sicrhau nad oes cyrsiau’n cael eu dysgu tan bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael yn y ddwy iaith,” ychwanegodd.

£1 miliwn i CBAC

Yn ei lythyr at Llyr Gruffydd, mae Alun Davies yn nodi bod £1 miliwn wedi cael ei neilltuo i CBAC yn 2016-18 i gynhyrchu adnoddau cyfrwng Cymraeg.

Does dim gwybodaeth am yr arian sydd wedi cael ei roi i CBAC yn y gorffennol i sicrhau darpariaeth o werslyfrau Cymraeg.

“Mae gennym ni sefyllfa nawr lle mae athrawon, sydd eisoes dan bwysau, yn gorfod mynd ati o’u gwirfodd i gyfieithu adnoddau,” meddai Llyr Gruffydd.

Apêl i athrawon

Mae e bellach wedi cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg ac yn annog athrawon i gysylltu â fe i sôn am eu profiadau o gyfieithu adnoddau.

“Dw i’n apelio ar athrawon sydd yn gorfod gwneud hyn ac sy’n teimlo bod ‘na ddiffyg ddarpariaeth gwerslyfrau Cymraeg yn y pynciau maen nhw’n eu dysgu i gysylltu â fi er mwyn i fi allu cael gwell syniad o hyd a lled y broblem.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.