Mae Cyngor Powys wedi cytuno i gau dwy ysgol uwchradd sydd mewn mesurau arbennig ac agor un campws newydd yn eu lle.
Fe gafodd y cynlluniau i gau ysgolion uwchradd Llanfair ym Muallt a Llandrindod eu cefnogi gan aelodau cabinet y Cyngor ac mae disgwyl i’r ysgol newydd gael ei hagor ar safle yn Llanfair ym Muallt erbyn 2018.
Mae’r newid am alluogi’r cyngor i wella’r system arweinyddiaeth yn y ddwy ysgol bresennol, yn ôl y cynghorydd Arwel Jones sy’n cynrychioli addysg ar y cabinet.
Yn ogystal, fe ddywedodd aelodau y bydden nhw’n ail-ystyried cynnig i ddod a’r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu i ben a’i symud i gampws yn Llanfair ym Muallt.
Ffrwd Gymraeg Aberhonddu
Pwnc trafod arall ar raglen y Cabinet oedd dyfodol ysgolion uwchradd Gwernyfed ac Aberhonddu. Y cam nesaf fydd cyflwyno cais i Raglen Ysgolion 21g Llywodraeth Cymru am gyllid i adeiladu campws newydd i ddisgyblion 11-18 oed yn Aberhonddu ac i wneud gwelliannau i ysgol Gwernyfed.
Cyhoeddwyd hefyd na fydd cynllun i gau ysgolion Llanbister and Llanfihangel Rhydithon yn mynd yn ei flaen gan fod disgwyl i niferoedd disgyblion gynyddu.