April McMahon
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi amddiffyn y penderfyniad i wario £850 ar gynnal garddwest i ffarwelio â’r Is-Ganghellor April McMahon ym mis Gorffennaf eleni.

Ond mae’r awdurdodau hefyd wedi ymateb i sylwadau gan fudiad Ffrindiau Pantycelyn ar y wefan hon ddoe, oedd yn argymell y gellid fod wedi rhoi arian y parti i gronfa adnewyddu’r neuadd breswyl Gymraeg.

“Mae’n arfer pan fo Is-Ganghellor yn gadael ei swydd i gynnal digwyddiad o’r fath sy’n rhoi cyfle i gydweithwyr ddod at ei gilydd i nodi diwedd cyfnod,” meddai llefarydd ar ran y Coleg Ger y Lli wrth golwg360.

“Nid oes cymhariaeth gyfatebol rhwng y gwariant o £850 ar y parti ffarwél yma a’r bwriad i wario £10m ar Neuadd Pantycelyn.

“O ran ail-agor Pantycelyn, mae cam nesaf y gwaith pensaernïol bellach ar waith er mwyn sicrhau bod modd cychwyn ar y gwaith adeiladu cyn gynted ag y bydd y cyllid wedi ei gadarnhau.”

Fe dorrodd y stori wreiddiol ar y wefan hon, wedi i ateb i gais Rhyddid Gwybodaeth ynglyn â’r gwariant ddod i law golwg360.